Gorfodi Traffig Sifil

This page was last updated on 22nd September 2020

Mae cyfyngiadau parcio, defnydd o lonydd bysiau a rhai tramgwyddau traffig symudol eraill yn cael eu gorfodi’n gynyddol gan awdurdodau traffig lleol sydd wedi ceisio ac wedi cael pwerau gorfodi sifil.

Mae cyfyngiadau parcio’n cael eu gorfodi fwyfwy gan awdurdodau traffig lleol sydd wedi cael pwerau gorfodi sifil. Mae Rheoliadau a gyflwynwyd yn 2013 yn rhoi’r cyfle i awdurdodau lleol fabwysiadu gorfodi sifil ar dramgwyddau lonydd bysiau a rhai tramgwyddau traffig symudol. Bwriad y fasged hon o bwerau yw rhoi amrywiaeth o fesurau i awdurdodau i fynd i’r afael â thagfeydd traffig ac felly cyflymu llif y traffig.

Mae newidiadau i ddeddfwriaeth wedi cysoni’r gweithdrefnau gorfodi traffig sifil ledled Cymru ac yn cynnwys darpariaethau ar gyfer cynhyrchu tystiolaeth o gamerâu teledu cylch cyfyng ac offer cofnodi cysylltiedig. Rhaid i ddyfeisiau o’r fath nas cwmpesir gan gymeradwyaeth gydnabyddedig bresennol gael eu hardystio fel “dyfeisiadau cymeradwy” gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Asiantaeth Ardystio Cerbydau wedi’i phenodi i wneud hyn ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu ei dogfennaeth Gorfodi Traffig Sifil gyhoeddedig ar ei gwefan.

Penodwyd dyfarnwyr annibynnol i ddelio ag anghydfodau heb eu datrys am Hysbysiadau Taliadau Cosb a roddir gan awdurdodau traffig am dramgwyddau. Mae cyngor pellach ar gael gan: PATROL